Cymdeithas Gwelliannau

Cyfansoddiad

CYMDEITHAS GWELLIANNAU FFESTINIOG 

A ENW

 Enw'r Gymdeithas fydd CYMDEITHAS GWELLIANNAU FFESTINIOG.

 B GWEINYDDIAETH:

Yn amodol ar y materion a nodir isod caiff y Gymdeithas a'i heiddo eu gweinyddu a'u rheoli yn unol â'r cyfansoddiad hwn gan aelodau'r Gymdeithas, a gyfansoddwyd gan gymal E o'r cyfansoddiad hwn.

C AMCANION:

Amcan y Gymdeithas fydd gwella pentref Ffestiniog er budd y trigolion trwy:

i) Hybu gwarchod, amddiffyn a gwella amgylchedd ffisegol a naturiol pentref Ffestiniog a’r cyffiniau;

ii) Darparu neu gynorthwyo darparu cyfleusterau adloniant ym Mhentref Ffestiniog er budd cymdeithasol y cyhoedd yn gyffredinol a/neu’r sawl sydd angen cyfleusterau o’r fath oherwydd eu hieuenctid, oedran, anallu neu anabledd, tlodi neu amgylchiadau cymdeithasol neu economaidd.

CH HAWLIAU:

 I gyflawni'r amcan ond nid fel arall, caiff y Gymdeithas ddefnyddio'r hawliau canlynol:

i) yr hawl i godi arian a gwahodd a derbyn cyfraniadau cyn belled na fydd y Gymdeithas, wrth godi arian, yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau masnachu sylweddol parhaol a’i bod yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith yn hynny o beth;

ii) yr hawl i brynu, prydlesu neu gyfnewid unrhyw eiddo sydd ei angen ar gyfer cyflawni'r amcan ac i gynnal a'i gyflenwi ar gyfer defnydd;

iii) yr hawl, trwy gytundeb cyfreithiol, i werthu, prydlesu neu werthu'r cyfan neu unrhyw ran o eiddo'r Gymdeithas;

iv) yr hawl i gydweithredu gydag elusennau eraill, cyrff gwirfoddol ac awdurdodau statudol yn gweithredu i gyflawni'r amcan neu ddibenion elusennol tebyg a chyfnewid gwybodaeth a chyngor gyda hwy;

v) yr hawl i sefydlu neu gefnogi unrhyw ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau neu sefydliadau a ffurfiwyd ar gyfer y cyfan neu unrhyw rai o'r amcanion;

vi) yr hawl i benodi a chyfansoddi unrhyw bwyllgorau ymgynghorol a dybia'r Gymdeithas yn addas;

vii) yr hawl i wneud yr holl bethau cyfreithlon eraill sy'n angenrheidiol i gyflawni'r amcan.

D AELODAETH:

 1) Bydd aelodaeth o'r Gymdeithas yn agored i:

i) unigolion (dros 18 oed) sydd â diddordeb mewn hybu gwaith y Gymdeithas.

ii) unrhyw gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforaethol sydd â diddordeb mewn hybu gwaith y Gymdeithas.

2) Bydd gan bob aelod un bleidlais.

3) Bydd pob aelod-fudiad yn penodi unigolyn i'w gynrychioli ac i

bleidleisio ar ei ran yng nghyfarfodydd y Gymdeithas, yn ogystal ag enwi dirprwy i gymeryd lle’r cynrychiolydd swyddogol pan fydd hwnnw’n methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod.

4) Bydd pob aelod-fudiad yn hysbysu'r ysgrifennydd o enw'r

cynrychiolydd a benodwyd ganddo ac unrhyw ddirprwy. Os bydd y cynrychiolydd neu'r dirprwy yn ymddiswyddo neu'n gadael y mudiad, bydd ef neu hi yn peidio â bod yn gynrychiolydd y mudiad hwnnw.

5) Caiff y Gymdeithas, gyda mwyafrif dwy ran o dair o'r aelodaeth cyfan, ac am reswm da, derfynu aelodaeth unrhyw unigolyn neu fudiad sy'n aelod: cyn belled â bod yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd y mudiad dan sylw (fel y bo'r achos) yn cael yr hawl i gyflwyno’i achos/ei hachos gerbron y Gymdeithas, a hynny gyda chyfaill yn gwmni iddo/iddi, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.

DD SWYDDOGION MYGEDOL:

 Yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol y Gymdeithas bydd yr aelodau

yn ethol o'u plith gadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifennydd/ysgrifenyddion a thrysorydd a fydd yn dal y swyddi o ddiwedd y cyfarfod hwnnw.

E Y GYMDEITHAS:

1) Bydd y Gymdeithas yn cynnwys:

a) Cynghorwyr presennol lleol a etholwyd i Gyngor Gwynedd (1) a

Chyngor Tref Ffestiniog (3).

b) Un cynrychiolydd a benodwyd gan bob un o'r mudiadau canlynol:

Cyngor Eglwysig Plwyf Sant Mihangel

Capel yr Annibynwyr Bethel

Cangen Ffestiniog o Ferched y Wawr

Cangen Ffestiniog o Sefydliad y Merched

Clwb Dawnsio Gwerin Ffestiniog

Clwb Chwaraeon Ffestiniog

Clwb Ieuenctid Ffestiniog

Cylch Meithrin Ffestiniog

Cylch 'Ti a Fi' Ffestiniog

Cyfeillion Ysgol Bro Cynfal

Clwb Darbi a Joan Ffestiniog

Trigolion Bryn Coed

Cyfeillion Eglwys Sant Mihangel

Cymdeithas Hanes Bro Cynfal

Caban y Pensiynwyr

Pwyllgor Neuadd Pentref Ffestiniog

Cymdeithas Enweiriawl Cambrian

Pysgotwyr Dwyryd Cyf.

2) Mae gan y Gymdeithas yr hawl i benodi hyd at saith aelod cyfetholedig,

cyn belled â bod nifer yr aelodau hynny yn ddim uwch na thraean yr aelodaeth lawn. Bydd penodiad pob aelod cyfetholedig yn dod yn weithredol ar ddiwedd y cyfarfod y’i penodir ynddo, oni fo'r penodiad i lenwi swydd nad yw eto yn wag. Mewn achos o'r fath bydd y penodiad yn rhedeg o'r dyddiad pan ddaw'r swydd yn wag.

3) Bydd holl Swyddogion Mygedol y Gymdeithas yn ymddeol o'u swyddi gyda'i

gilydd ar ddiwedd y cyfarfod blynyddol cyffredinol nesaf yn dilyn y dyddiad pan ddaethant i'r swydd, ond ceir eu hail-ethol neu eu hail-benodi.

4) Ni chaiff gweithrediadau'r Gymdeithas eu hannilysu gan unrhyw swydd wag

ymhlith yr aelodau na chan unrhyw fethiant i benodi neu unrhyw ddiffyg ym mhenodiad neu gymhwyster aelod.

5) Ni chaniateir penodi neb iau na 18 oed yn aelod o’r Gymdeithas, na chwaith unrhyw un a fydd yn anghymwys yn ôl diffiniad y Cymal canlynol.

6) Ni fydd gan neb yr hawl i weithredu ar ran y Gymdeithas, ar unrhyw gyfnod mewn swydd o aelod, heb iddo/iddi’n gyntaf lofnodi datganiad yn llyfr cofnodion y Gymdeithas ei fod/ei bod yn fodlon ac yn barod i weithredu yn unol ag amcanion y Gymdeithas.

F TERFYNU AELODAETH O'R GYMDEITHAS:

 Bydd aelod o'r Gymdeithas yn peidio â dal swydd os bydd ef neu hi:

1) yn cael ei anghymhwyso/ei hanghymwyso o fod yn aelod o'r Gymdeithas trwy rinwedd adran 72 Deddf Elusennau 1993 (neu unrhyw ail-ddeddfiad statudol neu addasiad o'r ddarpariaeth honno);

2) yn methu gweinyddu ei faterion/materion personol ei hun a hynny oherwydd anallu meddyliol, salwch neu anaf o ryw fath;

3) yn absennol heb ganiatâd y Gymdeithas o bob cyfarfod a gynhelir

mewn cyfnod o chwe mis a bod y Gymdeithas yn penderfynu y

dylai ei swydd ef/hi ddod yn wag, neu

4) yn hysbysu'r Gymdeithas o ddymuniad i ymddiswyddo (cyn belled â bod o leiaf dri aelod o'r Gymdeithas yn parhau yn eu swyddi pan ddaw’r ymddiswyddiad i rym). 

FF AELODAU'R GYMDEITHAS I BEIDIO Â CHAEL BUDDIANT PERSONOL:

 Ni chaiff aelod o'r Gymdeithas fod ag unrhyw fuddiant personol mewn eiddo s’yn perthyn i'r Gymdeithas (ac eithrio fel Ymddiriedolwr ar ran y Gymdeithas) na derbyn tâl na bod â buddiant (ac eithrio fel aelod o'r Gymdeithas) mewn unrhyw gontract a lunir gan y Gymdeithas.

G CYFARFODYDD A GWEITHREDIADAU'R GYMDEITHAS:

 1) Bydd y Gymdeithas yn cynnal o leiaf pedwar cyfarfod arferol bob blwyddyn.

Gellir galw cyfarfod arbennig ar unrhyw adeg gan y cadeirydd neu gan unrhyw ddau aelod o'r Gymdeithas o roddi dim llai na saith diwrnod o rybudd i aelodau eraill y Gymdeithas o'r materion i'w trafod. Mae hyn yn cynnwys penodi aelod cyfetholedig.

2) Bydd y cadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd y Gymdeithas. Os yw'r

cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd. Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol yna dylai aelodau'r Gymdeithas sy'n bresennol ddewis un o'u plith i fod yn gadeirydd y cyfarfod cyn trafod unrhyw fater arall.

3) Bydd cworwm pan fydd o leiaf chwarter o nifer aelodau'r Gymdeithas ar

y pryd neu bum aelod o'r Gymdeithas – pa un bynnag yw'r mwyaf – yn bresennol mewn cyfarfod.

4) Bydd pob mater yn cael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau'r

Gymdeithas sy'n bresennol ac yn pleidleisio ar y mater ond os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal yna bydd gan gadeirydd y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

5) Bydd y Gymdeithas yn cadw cofnodion, mewn llyfrau a gedwir at y diben,

o'r trafodaethau a gynhelir yng nghyfarfodydd y Gymdeithas ac mewn unrhyw is-bwyllgorau.

6) Caiff y Gymdeithas o bryd i'w gilydd lunio a newid rheolau ar gyfer trafod

ei busnes, galw a chynnal cyfarfodydd a chadw dogfennau. NI chaniateir llunio unrhyw reol sy'n anghyson gyda'r cyfansoddiad hwn.

7) Os cwyd yr angen i gynnal ymchwiliad, nau i arolygu neu weithredu unrhyw swyddogaeth neu ddyletswydd, yna bydd gan y Gymdeithas yr hawl i benodi un neu ragor o is-bwyllgorau i wneud y gwaith hwnnw, os mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o weithredu, ym marn yr aelodau. Ni ddylai unrhyw is-bwyllgor fod â llai na thri aelod a rhaid i bob is-bwyllgor adrodd yn ôl yn llawn ac yn brydlon i’r Gymdeithas.

8) Ni chaiff unrhyw is-bwyllgor yr hawl i gymryd penderfyniadau sy'n rhwymo'r Gymdeithas gyfan.

NG DERBYNION A GWARIANT:

 1) Caiff cyllid y Gymdeithas, gan gynnwys holl gyfraniadau a rhoddion, eu talu

i gyfrif a weithredir gan y Gymdeithas yn enw'r Gymdeithas mewn banc a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Gymdeithas. Rhaid llofnodi unrhyw sieciau ar y cyfrif gan dri Swyddog Mygedol.

2) Ni ddefnyddir cronfeydd ariannol y Gymdeithas ond yn unig i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.

H EIDDO

Bydd y Gymdeithas yn achosi i deitl holl dir a ddelir gan neu mewn ymddiriedaeth i'r Gymdeithas nad yw wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau, gael ei freinio mewn dim llai na thri unigolyn a benodir ganddi fel ymddiriedolwyr daliannol. Caiff y Gymdeithas ddiswyddo ymddiriedolwyr daliannol pan y mynn a dylent weithredu yn unol â chyfarwyddiadau cyfreithiol y Gymdeithas. Cyn belled â'u bod yn gweithredu yn unig gyda chyfarwyddiadau cyfreithiol y Gymdeithas, ni fydd yr ymddiriedolwyr daliannol yn atebol am weithredoedd a diffygion yr aelodau.

I CYFRIFON:

 Bydd y Gymdeithas:

1) yn cadw cofnodion cyfrifo ar gyfer y Gymdeithas;

2) yn paratoi datganiadau cyfrifon blynyddol ar gyfer y Gymdeithas;

3) yn trefnu cael archwilio neu astudio datganiad cyfrifon y Gymdeithas yn

annibynnol.

L ADRODDIAD BLYNYDDOL:

 Bydd y Gymdeithas yn paratoi adroddiad blynyddol a gaiff ei gyflwyno i'r cyfarfod blynyddol cyffredinol.

LL CYFARFODYDD BLYNYDDOL CYFFREDINOL:

 1) Cynhelir cyfarfod blynyddol cyffredinol ym mis Tachwedd bob blwyddyn

neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, a elwir gan y

Gymdeithas.

2) Bydd gan holl drigolion yr ardal sy'n 18 oed a throsodd hawl i fynychu'r

cyfarfod blynyddol cyffredinol.

3) Rhoddir hysbysiad cyhoeddus o bob cyfarfod blynyddol cyffredinol yn yr

ardal sy'n manteisio, o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod.

4) Cadeirydd cyfarfodydd blynyddol cyffredinol fydd cadeirydd y Gymdeithas

ar y pryd ond os nad yw ef/hi yn bresennol, yna bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd. Os bydd y cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, yna bydd y personau sy'n bresennol yn penodi cadeirydd y cyfarfod, cyn trafod unrhyw fater arall.

5) Bydd y Trysorydd yn cyflwyno adroddiad a chyfrifon y Gymdeithas am

y flwyddyn a aeth heibio i bob cyfarfod blynyddol cyffredinol.

 M CYFARFODYDD ARBENNIG:

 Caiff y Gymdeithas alw cyfarfod arbennig ar unrhyw adeg. Os bydd o leiaf 5 aelod yn gofyn am gyfarfod o'r fath yn ysgrifenedig, gan nodi'r mater i'w drafod, bydd yr ysgrifennydd yn galw cyfarfod o'r fath. Rhaid rhoi o leiaf 21 diwrnod o rybudd. Rhaid i'r rhybudd ddatgan y mater i'w drafod.

N RHYBUDD:

 Bydd rhaid i unrhyw rybudd a gaiff ei roi i unryw aelod o’r Gymdeithas fod yn ysgrifenedig, ac wedi’i gyflwyno iddo/iddi’n bersonol gan yr Ysgrifennydd neu drwy’r post mewn amlen wedi’i rhagdalu a’i chyfeirio i gyfeiriad mwyaf diweddar yr aelod hwnnw yn y Deyrnas Gyfunol. Cymerir yn ganiataol y bydd pob llythyr o’r fath yn cyrraedd pen ei daith o fewn deng niwrnod i gael ei anfon.

O NEWIDIADAU I'R CYFANSODDIAD:

 1) Yn amodol ar ddarpariaethau canlynol y cymal hwn, gellir newid

y Cyfansoddiad trwy gyfrwng penderfyniad a gymerwyd gan ddim llai na dwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio mewn cyfarfod arbennig. Rhaid i hysbysiad y cyfarfod arbennig gynnwys hysbysiad o'r penderfyniad, gan nodi telerau'r newid a gynigiwyd.

2) Ni cheir gwneud unrhyw newid i gymal A, Cymal C, Cymal FF, Cymal

P na'r cymal hwn.

3) Ni cheir gwneud unrhyw newid a fyddai'n golygu bod y Gymdeithas

yn peidio â bod yn Gymdeithas dan y gyfraith.

P DIDDYMU:

Pe bai amgylchiadau yn penderfynu bod yn rhaid diddymu’r Gymdeithas, yna rhaid fydd galw cyfarfod o’r holl aelodau gan roi dim llai na 21 diwrnod o rybudd a chan amlinellu manylion y bwriad. Os cadarnheir y cynnig gan ddwy ran o dair o’r aelodau a fydd yn bresennol ac yn pleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, yna fe rydd hynny wedyn yr hawl i’r Gymdeithas sylweddu unrhyw asedion yn eu meddiant. Yna, wedi clirio pa bynnag ddyledion y bydd y Gymdeithas yn atebol amdanynt, bydd gweddill yr asedion, trwy benderfyniad aelodau’r Gymdeithas, yn cael eu rhoi neu eu trosglwyddo i sefydliad neu sefydliadau eraill elusennol sydd ag amcanion tebyg i amcanion y Gymdeithas, neu’n cael eu defnyddio i ddibenion elusennol eraill.

Mabwysiadwyd y Cyfansoddiad hwn ar ……………………………………………. gan y personau y mae eu llofnodion yn ymddangos ar waelod y ddogfen hon.

Llofnod …………………………………………………………………………………………………………………….

 

Click here to return to Gwelliannau Index
Tudalen gartref y pentref
Cyflwyno Llan
Cyfeirlyfr
“Llinell Gymorth” y Pentref a Newyddion
Hanes y Pentref
Twristiaeth
Eglwys Sant Mihangel
Capel Bethel

St. Mary
Magdalene

Cynhyrchir y prototeip hwn o dudalen we Ffestiniog gan Gymdeithas Gwelliannau Ffestiniog.

Gyda chymorth gan Eglwys Sant Mihangel, Ffestiniog

Golygydd: Lonna Bradley ffôn: 01766 762653
Golygydd: Moira Richards ffôn: 01766 762786