Cyflwyno Llan
a
Dyffryn Ffestiniog

I welywio ein safle, cliciwch ar y “Cysylltau” i weld yr adrannau


Ym 1797, teithiodd yr Arglwydd George Lytton drwy Gymru. Pan gyrhaeddodd Ffestiniog, ysgrifennodd: “With the woman one loves, with the friend of one’s heart, and a good study of books, one might pass an age in this vale and think it a day. If you have a mind to live long and renew your youth, come and settle in Ffestiniog”.

Dyfyniad o lyfr Kate Robinson “Hanes Eglwys Sant Mihangel”

Yng nghanol golygfeydd hynod mewn basn naturiol dyrchafedig, mae Llan Ffestiniog yn bentref bach ym Mharc Cenedlaethol Eryri ym mhen uchaf Dyffryn Ffestiniog ar gefnffordd yr A470. Mae wedi ei leoli ar hen ffordd y porthmyn, a llwybr y pererinion i L ŷ n ac Ynys Enlli; mae llawer o’r hen lwybrau

hyn, sydd yn ganrifoedd oed, yn cael eu defnyddio o hyd, ac yn dyddio o’r Canol Oesoedd hyd ddyfodiad y rheilffyrdd tua 1900. Mae tua 400 o dai yn y pentref, llawer ohonynt o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

Moelwyn Mawr

Mae’r Dyffryn yn cynnwys un o’r tirweddau pwysicaf yn y diwydiant mwyngloddio a’r diwydiant chwareli yng Nghymru, gyda chyfoeth o olion archeolegol. Mae’r rhain yn cynnwys gweithfeydd chwarel a mwyngloddio, tipiau sbwriel, adeiladau perthnasol, sustemau trafnidiaeth ac anheddau. Yma, hefyd, mae cynllun trydan dd ŵ r Tanygrisiau, y cyntaf o’r math ym Mhrydain. Mae’r argae a welir ar y Moelwyn Mawr yn un o’r tirnodau dynol mwyaf amlwg yng Ngwynedd.

.

Mae digon o ddewis o lefydd i bysgota, a llwybrau i gerdded, o daith hamddenol i ddringo mynyddoedd. O fewn cyrraedd i’r pentref mae cyfleoedd i farchogaeth, chwarae golff, rafftio d ŵ r gwyn a chwaraeon d ŵ r a gweithgareddau eraill.

Mae’r ardal yn enwog am ei chysylltiad gyda chwedlau’r Mabinogi, casgliad o straeon a gymerwyd o’r ddau lyfr hynafol “Llyfr Coch Hergest” a “Llyfr Gwyn Rhydderch”. Hanesion o Oes y Celtiaid yw’r rhain, rhai ohonynt yn dyddio o tua 500 C.C. Mae’r pentref wedi mabwysiadu’r ddylluan fel arwyddlun, hyn yn cyfeirio at chwedl leol Blodeuwedd. Mae Pedwaredd Gainc y Mabinogi, sef “Math ap Mathonwy” wedi ei seilio yng Ngwynedd.

Mae’r ardal yn denau ei phoblogaeth, gydag 80% yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001. Mae gennym siop groser, Swyddfa Bost, gwesty, Capel, gr ŵ p meithrin, ysgol gynradd a meddygfa. Mae gan yr Eglwys gysylltiadau cryf gyda’r gymuned, ac yn cymryd rhan, pan fydd yn bosibl, mewn gweithgareddau lleol.

Tudalen gartref y pentref
Cyflwyno Llan
Cyfeirlyfr
“Llinell Gymorth” y Pentref a Newyddion
Hanes y Pentref
Twristiaeth
Eglwys Sant Mihangel
Capel Bethel

St. Mary
Magdalene

Cynhyrchir y prototeip hwn o dudalen we Ffestiniog gan Gymdeithas Gwelliannau Ffestiniog.

Gyda chymorth gan Eglwys Sant Mihangel, Ffestiniog

Golygydd: Lonna Bradley ffôn: 01766 762653
Golygydd: Moira Richards ffôn: 01766 762786