Amdanom Ni 2

I welywio ein safle cliciwch yma am y “Cysylltau”, neu sgroliwch i lawr

Codi Arian

Merched o’r Eglwys, gan fwyaf, yw’r Gr ŵ p Martha, er bod ambell i ddyn, hefyd, yn eu cynorthwyo. Maent yn gweithio yn rheolaidd i drefnu stondinau cacennau a nosweithiau coffi i godi arian tuag at gostau cynnal a chadw yr Eglwys, ac i ddarparu lluniaeth ar gyfer digwyddiadau’r Eglwys.

Rhoddir rhan o’r arian hyn i genhadaeth dros y môr, a’r ddwy elusen a gynorthwywyd hyd yma yw “Water Aid” mewn pentrefi sydd heb ddŵr, a “Send a Cow to Africa”, sydd yn helpu pobl i helpu’i hunain.

Mae’r Gr ŵ p Martha, hefyd, yn cynhyrchu, printio a dosbarthu’r newyddlen fisol, sydd, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am ddigwyddiau’r Eglwys a’r ardal, yn rhoi manylion am wasanaethau Capel Bethel a’r Eglwys Gatholig. Pob Nadolig, bydd y newyddlen yn mynd i bob t ŷ yn y pentref.

Cyfeillion Sant Mihangel
Datblygodd y gr ŵ p hwn o’r PwyllgorAdnewyddu gwreiddiol a sefydlwyd yn y 1990au cynnar, yn benodol i godi arian ac i gyflawni’r gwaith adnewyddu oedd yn angenrheidiol i gadw’r Eglwys yn agored. Pwrpas y Cyfeillion bellach yw codi arian i Bwyllgor yr Eglwys ar gyfer prosiectau penodol, ac i gadw a gwella ansawdd yr adeilad. Mae, hefyd, yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, ac mae’n gyfrifol am drefnu’r “Noson Garolau”, gweithgaredd eciwmenaidd a chymdeithasol, sydd yn denu cynulleidfa dda ac sydd wedi profi yn un o uchafbwyntiau blwyddyn yr Eglwys.

Neuadd yr Eglwys
Mae’r Neuadd ar wahan ar ei thir ei hun yn ymyl yr Eglwys. Mae yno brif ystafell, cegin, ystorfa a dau doiled. Mae’r Ysgol Feithrin yn cyfarfod yno’n ddyddiol trwy drefniant.

Neuadd yr Eglwys

Defnyddir y Neuadd ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor yr Eglwys a chyfarfodydd eraill yr Eglwys, codi arian a digwyddiadau cymdeithasol, er enghraifft, Nosweithiau Coffi, Swper y Cynhaeaf, arddangosfeydd a lluniaeth yn dilyn digwyddiadau yn yr Eglwys.

cliciwch yma am y tudalen 1

Tud
Gartref Llan

Gwasanaethau'r Mis

Llythyr
Newyddion y Mis

Newyddion Eglwysig