Amdanom Ni

I welywio ein safle cliciwch yma am y “Cysylltau”, neu sgroliwch i lawr

Rydym mi, cynulleidfa Eglwys Sant Mihangel, yn gr ŵ p cyfeillgar iawn, ac yn cyfarfod yn ystod yr wythnos, yn ogystal â’r Sul. Ceisiwn roi cefnogaeth garedig i’n gilydd – mae yna deimlad gwir o berthyn i “deulu”. Ymdrechwn i ymweld â’r rhai sydd yn gaeth i’w cartrefi ac â’r ddau gartref henoed, Bryn Blodau a Bryn Llewelyn.

Mae gennym ysbryd cryf o gydweithredu yma yn Ffestiniog, gydag ystod eang o ddiddordebau, a goddefgarwch. Rydym yn barod i ystyried syniadau newydd, derbyn aelodau newydd a gweithio gyda hwy. Rydym yn falch o’n cysylltiad â Chapel Bethel, y Capel Annibynnol lleol, a’r ysgol gynradd leol, sydd â chysylltiadau â’r eglwys a’r capel. Yn ddiweddar, gwnaed cysylltiad ag Eglwys Sant Pedr, Adyel, Lango yn Uganda a bwriadwn eu cynorthwyo yn ariannol. Gosodwyd system dolen/ sain sydd wedi gwella’n arw ar acwsteg yr adeilad, a oedd eioes yn dda iawn

Addoliad a Gweinidogaeth
Rydym yn defnyddio “Trefn y Cymun Sanctaidd, 2004” gyda’r Llithlyfr Diwygiedig Cyffredin ar gyfer darlleniadau. Defnyddir Gweddi Foreol a Gwasanaethau Teuluol o dro i dro. Ar fore dydd Iau cawn gr ŵ p bach ymroddedig sydd yn cyfarfod am 8.45 a.m. am wasanaeth Gweddi Foreol, gan ddefnyddio “Trefn Amgen ar gyfer Gweddi Foreol a Nos”. Hefyd, ar nos Iau am 7.00 p.m. mae rhai ohonom yn cyfarfod yn nh ŷ un o’r aelodau ar gyfer Astudiaethau Beiblaidd a chyfeillach.

Efallai bod addoliad yn llai ffurfiol yma nag yw mewn eglwysi eraill yn yr ardal, a chynhwysir emynau a chaneuon “hen a newydd” yn y gwasanaeth i ddiwallu anghenion pawb ac i geisio creu cydbwysedd. Mae ein organydd rheolaidd yn meddu ar gryn ddawn wrth arwain addoliad cerddorol, ac mae un Darllenydd trwyddedig yn y Plwyf sydd yn cynorthwyo ein Rheithor gyda’r gwasanaethau, ac, ar un Sul yn y mis, yn cymryd y gwasanaeth ei hun.

Mae’r gwasanaethau bob amser yn ddwy-ieithog gyda’r aelodau yn cymryd rhan gyda darlleniadau o’r Beibl ac yn arwain yr eiriolaeth. Ar gyfartaledd, bydd tua 24 yn mynychu ar y Sul, gyda chynnydd cyson; weithiau bydd rhai sydd ar eu gwyliau yn ymuno â ni. Yn y blynyddoedd diweddaraf cynhaliwyd gwasanaethau eciwmenaidd/ sesiynau astudiaeth yn ystod Adfent a’r Grawys gyda’r Capel Annibynnol lleol a’r Eglwys Gatholig.

Rydym yn rhan o fywoliaeth sydd yn cynnwys tri phlwyf – Dewi Sant ym Mlaenau Ffestiniog, Sant Madryn yn Nhrawsfynydd a ninnau. Cynhelir gwasanaethau ar y cyd yn rheolaidd.

Tud
Gartref Llan

Gwasanaethau'r Mis

Llythyr
Newyddion y Mis

Newyddion Eglwysig