Hanes Eglwys Sant Mihangel

Adeiladwyd yr Eglwys bresennol ym 1844, ond roedd eglwys yma cyn hynny. Mae lle i eistedd 150 yn yr adeilad. Mae rhai yn credu i’r eglwys gyntaf i’w chysegru i Sant Mihangel gael ei hadeiladu yn 717 O.C., ond nid oes modd profi hynny.

Saif yr Eglwys ar fryn ym mhen uchaf Dyffryn Ffestiniog ac mae i’w gweld o bob cyfeiriad. Mae’n amlwg ei bod yn werthfawr fel lle o addoliad oherwydd pan oedd bygythiad i’w chau yn gynnar yn y 1990au, daeth y gymuned gyfan at ei gilydd i’w hachub.

Gwnaed gwaith mawr ar yr adeilad ym 1993/94 gydag atgyweiradau i’r to a gwaith ail-bwyntio. Er hynny, mae angen llawer o waith eto ar du mewn yr adeilad, er enghraifft plastro, adnewyddu distiau ac estyll, a man waith eto ar y to.

Rheithor mwyaf enwog Ffestiniog oedd y Parch. Edmwnd Prys (1543 – 1623); roedd yn Rheithor ar Eglwys Sant Mihangel ac yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd yn bregethwr o fri, yn gyfieithydd ac yn fardd, gan ennill coron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ei fersiwn o’r Salmau yn y Gymraeg a, hefyd, y llyfr cyntaf o emynau Cymraeg.

Ysgrifenwyd llyfr cynhwysfawr iawn ar yr Eglwys gan Kate Robinson (yn awr Porteous) sydd yn rhoi hanes yr Eglwys; gwerthwyd copïau o’r llyfr hwn i godi arian tuag at y gwaith atgyweirio.

 
Tud
Gartref Llan

Gwasanaethau'r Mis

Llythyr
Newyddion y Mis

Newyddion Eglwysig